Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 29 Medi 2016
Amser: 09.16 -
15.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3733
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Neil McEvoy AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Alistair Brown, Llywodraeth yr Alban Louise Speke, Cymdeithas y Tirfeddianwyr Joy Bailey, y Gofrestrfa Tir Pascal Lalande, y Gofrestrfa Tir |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Lakshmi Narain (Cynghorwr Technegol) |
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.
2.2 Croesawodd y Cadeirydd Neil McEvoy AC, a oedd yn dirprwyo ar ran Steffan Lewis AC.
2.3 Gwnaeth Neil McEvoy AC ddatganiad o fuddiant, a nododd y byddai'n absennol o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 9.
3.1 Nodwyd y papur.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth drwy gynhadledd fideo gan Alistair Brown, Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannol Llywodraeth yr Alban.
4.2 Cytunodd Alistair Brown i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn egluro:
· pam fod gwir gostau sefydlu Cyllid yr Alban yn uwch na'r amcangyfrif gwreiddiol; a
· sut y mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r weithdrefn gadarnhaol dros dro ar gyfer pennu cyfraddau a bandiau treth wedi'u hymgorffori yn Neddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yr Alban) 2013.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Louise Speke, Prif Ymgynghorydd Treth y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad.
5.2 Cytunodd Louise Speke i ddarparu nodyn yn amlinellu barn y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad ar y gwahaniaethau rhwng darpariaethau'r Rheolau a Dargedwyd yn Erbyn Osgoi Treth (TAAR) yn Neddf Treth Dir y Dreth Stamp 2015, a'r Rheolau TAAR sydd wedi'u cynnig yn y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Joy Bailey, Cofrestrydd Tir Cynorthwyol y Gofrestrfa Tir, a Pascal Lalande, Rheolwr Gweithrediadau Canolog y Gofrestrfa Tir.
6.2 Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor gopi o'r adroddiad a gomisiynwyd gan y Gofrestrfa Tir ynghylch nifer yr eiddo trawsffiniol sy'n bodoli.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Nododd y Pwyllgor y papur, a chytunodd i ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
10.1 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad, Ebrill 2015 - Mawrth 2016.